Cais am Dai
Cais am Ffurflen Dai
Nodyn - Mae'r ffeils mewn fformat PDF. I lawrlwytho Adobe Reader am ddim ewch i wefan Adobe
Gallwch wneud cais am dai fforddiadwy drwy lenwi’r ffurflen gais electronig am Dai ar-lein. Ffurflen Tai ar-lein.
Gwneud Cais am Dai
I lawrlwytho’r ffurflen gais, cliciwch ar y pdf isod, ac yna ei hanfon yn ōl atom yng Nghymdeithas Tai Bro Myrddin. Fel arall gallwch ei hanfon i Gyngor Sir Caerfyrddin.
- Ffurflen Gais
- Ein Polisi ar wneud cais am dŷ Cyngor a thŷ cymdeithas tai
- Tai Cymdeithasol ar Rent a Thai Lloches yn Sir Gaerfyrddin
Os hoffech gael help i lenwi’r ffurflen gais, rhowch alwad inni yng Nghymdeithas Tai Bro Myrddin ar 01267 232714 neu ffoniwch Gyngor Sir Caerfyrddin ar 01267 234567
Dyma restr o gymdeithasau tai
Cymdeithas Tai
Cymdeithas Tai Cantref |
BRO MYRDDIN HOUSING ASSOCIATION |
Tai Cymdogaeth Cyf |
Cyngor Sir Gaerfyrddin
|
Social Care & Housing Directorate |
Social Care & Housing Directorate |
Social Care & Housing Directorate |
Local councillors or board members of housing associations are not involved in offering housing
Cofrestr Cydgyfnewid Sir Gaerfyrddin
Os ydych yn byw mewn tŷ cymdeithasol ar hyn o
bryd ac eisiau cyfnewid eich cartref er mwyn byw mewn tŷ maint gwahanol neu
mewn ardal wahanol yna gallai Cydgyfnewid eich helpu chi.
Mae cydgyfnewid yn caniatįu i denant y Cyngor
neu denant Cymdeithas Tai gyfnewid eu cartref am gartref tenant arall. Rhaid
i’r holl landlordiaid gytuno cyn i’r cyfnewid fynd yn ei flaen.
Yn ddiweddar, rydym wedi dod yn bartneriaid
gyda HomeSwapper sy’n gweithredu cynllun cyfnewid cartrefi cenedlaethol ar y
we. Gallwch gofrestru gyda Home Swapper yn hawdd, drwy glicio ar y linc
uchod. Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim i denantiaid Bro Myrddin, Cyngor
Sir Caerfyrddin a’n Cymdeithasau tai partner.
Unwaith i chi gofrestru byddwch yn derbyn
manylion unrhyw opsiynau cyfnewid posib drwy e-bost neu ar y ffōn symudol.
Bydd rhestr ar bapur o gyfnewidiadau posib hefyd yn cael ei chadw yn ein
swyddfeydd ac yng Nghanolfannau Gwasanaeth Cwsmeriaid Cyngor Sir Caerfyrddin
yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli.
Darganfod Cyfnewid Posibl
Pan fyddwch yn darganfod ty y mae gennych ddiddordeb ynddo bydd angen i chi drefnu ymweliad. Os ydych am barhau wedi gweld cartrefi eich gilydd, y cam nesaf yw cwblhau ffurflen cyd gyfnewid ar gyfer eich cartref.
Pwy all wneud cais am Gydgyfnewid?
Gall holl denantiaid y Cyngor a’r Cymdeithasai
Tai, sydd ā thenantiaethau diogel a’r rhan fwyaf o denantiaid Cymdeithas Tai
sydd ā thenantiaethau sicr, wneud cais i gyfnewid eu llety.
Yn anffodus, ni chaniateir cydgyfnewid rhwng
tenantiaid mewn llety sy’n cael ei brydlesu neu sy’n cael ei rentu’n
breifat. Rhaid i bob tenant wneud cais a derbyn caniatād oddi wrth eu
landlord(iaid) priodol cyn parhau gyda chyfnewid.
Pam fod rhaid i mi gael caniatād cyn
cyfnewid fy llety?
Yn gyntaf, chi sy’n gyfreithiol gyfrifol am
eich cartref ac am dalu’r rhent mewn da bryd. Mae’n ofynnol i chi gadw at y
Cytundeb Tenantiaeth ac ni ddylid cyfnewid neu drosglwyddo eich Tenantiaeth
heb ganiatād y Cyngor neu Gymdeithas Tai. Bydd y Cyngor/Cymdeithas Tai yn
cymryd achos cyfreithiol yn eich erbyn os byddwch yn cyfnewid eich llety heb
ganiatād.
Yn ail, cyn rhoi caniatād i gyfnewid, rhaid i’r
Cyngor a Chymdeithasau Tai sicrhau bod y tenantiaid yn cwrdd ā rhai amodau:
-
Dylai fod gan
bob tenant gyfrif rhent clir
-
Dylai pob
tenant fod yn symud i gartref o’r maint cywir ar gyfer eu hanghenion tai
A fydd gwneud cais am Gydgyfnewid yn
effeithio ar fy nghais am drosglwyddiad?
Na, ni fydd gwneud cais i gyfnewid yn effeithio
eich cais ar gyfer trosglwyddiad. Fe all, fodd bynnag, gynyddu eich siawns o
symud.
Beth os nad oes gen i unrhyw flaenoriaeth
ar gyfer trosglwyddiad? Oes dal modd i mi wneud cais am Gydgyfnewid ?
Oes. Mantais cydgyfnewid yw nad yw’r symud wedi
selio ar anghenion tai, gan roi cyfle i bob tenant gael trosglwyddiad felly.
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
Dylai tenantiaid y Cyngor fod yn ymwybodol os
ydynt eisiau cyfnewid cartref gyda thenant Cymdeithas Tai yna maent yn
rhoi’r gorau i’w hawliau tenantiaeth diogel.
Cyn cytuno i gyfnewid, dylech ddarllen cytundeb
tenantiaeth y llall yn fanwl oherwydd eich bod yn derbyn eu tenantiaeth hwy
a all olygu derbyn hawliau a chyfrifoldebau gwahanol. Os ydych yn ansicr o
amodau eich tenantiaeth newydd gofynnwch i’r swyddog tai neu chwiliwch am
gyngor cyfreithiol.
Mae’n hanfodol nad ydych yn symud nes i’r
Cyngor/Cymdeithas Tai roi caniatād ysgrifenedig. Bydd rhaid i denantiaid
sy’n symud heb ganiatād symud yn ōl.
Fe’ch cynghorir i ymweld, o leiaf un waith,
gyda’r tŷ yr ydych yn meddwl cyfnewid iddo, yn enwedig er mwyn edrych ar
gyflwr y tŷ a’i ddarnau gosod a gosodiadau. Cofiwch, pan fyddwch yn
cyfnewid, y byddwch yn derbyn y tŷ fel y mae. Bydd Bro Myrddin ond yn
cwblhau’r atgyweiriadau sy’n orfodol i’r landlord wneud.
Unwaith i’r cydgyfnewid gael ei gymeradwyo, bydd yn ofynnol i’r ddwy ochr gadarnhau yn ysgrifenedig eu bod yn derbyn y tŷ fel y mae o’r dyddiad tenantiaeth a fydd yn cael ei benderfynu.




