
Croeso i Gynnwys Preswylwyr
"Rydym yn credu bod cynnig cyfle i breswylwyr gymryd rhan a herio’r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau yn hollbwysig i lwyddiant y Gymdeithas yn y dyfodol. "
Ym Mro Myrddin, rydym yn frwd dros gynnwys Preswylwyr yn ein gwaith fel y gallwn ddarparu gwasanaethau ardderchog gyda’n gilydd. Mae’r Gymdeithas hefyd wedi llunio Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr sy’n dangos yr ymrwymiad a wneir yn y blynyddoedd sydd i ddod i sicrhau bod cynnwys preswylwyr yn flaenaf yng ngwaith y Gymdeithas.
Mae Grant Grymuso Tenantiaid wedi caniatáu i’r Gymdeithas edrych yn fanwl ar gynnwys preswylwyr. Mae’r Grant wedi ein galluogi i weithio gyda chwmni o’r enw Open Communities, sydd wedi bod yn edrych ar sut y mae’r Fforwm Preswylwyr yn gweithredu, yn ogystal â pha gyfleoedd eraill sy’n bodoli i fwy o bobl gael dweud eu dweud ynghylch y ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu darparu.
Yn 2008, cynhaliwyd ail Arolwg STATUS gan dîm Adborth y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol. Roedd hwn yn dilyn yr arolwg yn 2005 ac roedd yn ddefnyddiol cymharu cynnydd dros y tair blynedd. Roedd yn dda iawn gweld bod y preswylwyr yn fodlon iawn â’r rhan fwyaf o agweddau ar y gwasanaeth ac roedd y canlyniadau yn dangos cynnydd mewn bodlonrwydd yn y rhan fwyaf o’r meysydd allweddol.
Cynllun Gweithredu
Mae gan y Strategaeth gynllun gweithredu manwl sydd wedi’i rannu’n 6 phrif amcan:
- Hybu cyfranogiad preswylwyr mewn ffyrdd ystyrlon a gwerth chweil i greu cyfleoedd ar gyfer yr holl breswylwyr.
- Darparu gwybodaeth glir mewn iaith groyw ac mewn fformatau priodol sy’n addas ar gyfer anghenion yr holl breswylwyr.
- Sicrhau bod y preswylwyr a’r staff wedi cael yr hyfforddiant a’r adnoddau llawn i gyflawni’r strategaeth hon.
- Archwilio dulliau o gynyddu ymgynghoriad a mewnbwn gan breswylwyr ym mhob agwedd ar weithrediadau Bro Myrddin.
- Darparu’r rhychwant ehangaf posibl o gyfleoedd i’r holl breswylwyr chwarae rôl weithredol ac ystyrlon.
- Hybu gwell trefniadau gwaith a chysylltiadau agosach rhwng y preswylwyr, y Bwrdd Rheoli a’r Staff.
Bydd y Fforwm Preswylwyr, y staff ac Aelodau’r Bwrdd yn gweithio’n galed yn y blynyddoedd sydd i ddod i gyflawni’r targedau a osodwyd yn y cynllun gweithredu.
Sut y gallwch chi gymryd rhan?
Rydym yn cydnabod bod gan bobl wahanol lefelau o ddiddordeb mewn cymryd rhan a byddwn yn sicrhau eich bod yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl gyfleoedd. Bydd Cynllun Gweithredu’r Strategaeth yn cyflwyno ffyrdd newydd y gallwch gymryd rhan a bydd y rhain yn cael eu hysbysebu mewn llythyron newyddion yn y dyfodol ac mewn llythyron atoch chi.
Dyma’r prif gyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd ac a fydd yn cael eu datblygu’n fuan:
| Cymdeithasau Preswylwyr - Bydd y Gymdeithas yn parhau i annog Cymdeithasau Preswylwyr drwy roi cefnogaeth a chymorth iddynt, o sefydlu’r grwp i helpu gyda’r costau rhedeg parhaus. | Fforwm Preswylwyr – Mae’r fforwm yn cwrdd yn rheolaidd ac mae’n gyfle i gael gwybod beth sy’n digwydd o fewn y Gymdeithas. Bydd y cyfarfodydd yn edrych ar bolisïau newydd, newidiadau pwysig, ac mae cyfle gwirioneddol i gael dweud eich dweud. Mae’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y brif swyddfa ac mae trafnidiaeth a lluniaeth yn cael eu darparu. | Digwyddiadau ymgynghori – Bydd y Gymdeithas yn weithredol wrth geisio eich barn mewn nifer o feysydd pwysig a byddwn yn ceisio rhoi llawer o gyfleoedd i chi roi eich barn i ni. Gallai hyn fod drwy holiadur, llythyr, cyfarfod, neu dros y ffôn. Yn fuan, byddwn yn cynnal ymarfer i gael gwybod beth sy’n well gennych o ran cyswllt yn y dyfodol. |
| Diwrnodau agored – Roeddem wedi cynnal diwrnod agored yn 2008 a oedd yn gyfle i gwrdd â’r staff mewn sefyllfa anffurfiol a chlywed am newidiadau yn y dyfodol a materion pwysig sy’n effeithio ar y Gymdeithas. Rydym yn bwriadu ei wneud yn ddigwyddiad rheolaidd a byddwch yn derbyn manylion ynghylch pryd y byddant yn cael eu cynnal. | Panel Darllenwyr – Rydym yn cydnabod bod llawer o bobl eisiau cael gwybod mwy a dweud eu dweud, ond na allant ddod i’r cyfarfodydd. Felly, rydym yn sefydlu panel darllenwyr, sy’n golygu y byddwch yn gallu derbyn gwybodaeth drwy’r post ac anfon eich sylwadau yn ôl. Yna, bydd unrhyw sylwadau yn cael eu hystyried fel rhan o unrhyw waith i roi newidiadau ar waith. | Crwydradau Ystâd a Chymorthfeydd Lleol – Mae’r stoc tai wedi’i gwasgaru dros sawl rhan o Sir Gaerfyrddin ac, ar gyfer rhai pobl, nid yw’n hawdd cyrraedd y swyddfa. Byddwn yn anelu at gynnal cymorthfeydd lleol a chael crwydradau ystâd mewn gwahanol rannau o’r Sir a byddem yn annog y preswylwyr i ddefnyddio’r cyfle i gwrdd â’r staff, ymdrin â materion a hefyd cael gwybod mwy am y Gymdeithas. |
| Ymgynghoriadau ar y rhyngrwyd – Mae mwy a mwy o bobl yn cael mynediad at gyfrifiaduron a’r rhyngrwyd ac, ar gyfer rhai pobl, dyma’r ffordd fwyaf cyfleus o ddod o hyd i wybodaeth a chynnig sylwadau. Byddwn yn edrych ar wella gwefan y Gymdeithas a sut y gellir ei defnyddio i dderbyn adborth ynghylch gwasanaethau a digwyddiadau ymgynghori. | Llythyr newyddion i breswylwyr – Rydym yn parhau i dderbyn adborth da ynghylch y llythyr newyddion a byddwn yn parhau i’w ddefnyddio i roi gwybodaeth i chi. | Man Preswylwyr – Er bod lle yn gyfyngedig yn y swyddfeydd presennol, rydym yn bwriadu sicrhau bod lle ar gael yn y swyddfeydd newydd i breswylwyr gael mynediad at gyfrifiaduron, cylchgronau perthnasol a chyfredol, a rhywle y gall y Fforwm Preswylwyr ei ddefnyddio yn ganolfan. Byddem yn hoffi sicrhau bod y cyfle hwn yn agored i’r holl breswylwyr. |
Fforwm y Preswylwyr
"Fforwm y Preswylwyr" yw un o’r prif ffyrdd y mae barn preswylwyr yn cael ei hystyried. Mae’r Fforwm yn rhoi llais i breswylwyr y Gymdeithas ac mae’n agored i’r holl breswylwyr. Nid oes angen i chi gael eich ethol.
Mae holl aelodau’r Fforwm yn mynychu fel unigolion ac nid ydynt yn cynrychioli preswylwyr eraill.
C. Beth mae’r Fforwm wedi’i gyflawni?
A. Mae’r Fforwm yn falch o’i gyflawniadau, gan gynnwys cael llais gwirioneddol yn y ffordd y mae’r Gymdeithas yn cael ei rhedeg. Mae’r Fforwm hefyd wedi derbyn cyllid oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru i weithio ar Grant Grymuso Tenantiaid. Mae’r Fforwm hefyd wedi cyfrannu at y Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr newydd a llawer o bolisïau eraill a luniwyd gan y Gymdeithas. Mae’r Fforwm hefyd yn cael ei gynrychioli ar y Bwrdd Rheoli.
C. Sut y gallaf gael gwybod mwy?
A. Rydym bob amser yn edrych am aelodau newydd a gallwn drefnu i aelod o’r Fforwm ac aelod o staff siarad gyda chi am gymryd rhan. Ffoniwch 01267 232714.
C. Beth sy’n digwydd yng nghyfarfodydd y Fforwm?
A. Mae’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y prif swyddfeydd a byddwch yn cael cyfle i glywed y newyddion diweddaraf am y Gymdeithas, yn ogystal â dweud eich dweud. Mae’r cyfarfodydd yn anffurfiol, ac mae cymorth gyda thrafnidiaeth ar gael ac mae lluniaeth yn cael ei ddarparu.
C. Pryd y mae’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal?
A. Ar hyn o bryd, mae’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn ystod y dydd, ond rydym yn ymgynghori ag aelodau presennol y Fforwm yn rheolaidd a byddwn yn newid yr amserau fel eu bod yn addas ar gyfer cymaint o bobl â phosibl.
C. Pa mor aml y mae’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal?
A. Mae’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal bob 2-3 mis, er nad oes yn rhaid i chi ddod i bob cyfarfod.
Cysylltwch â ni
Bydd unrhyw un o’r staff yn gallu siarad gyda chi am sut y gallwch gymryd rhan a byddant yn eich cyfeirio at aelod o staff a fydd yn gallu trafod eich anghenion yn fanylach.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy ein tudalen cysylltwch a nineu drwy anfon e-bost at: residents@bromyrddin.co.uk
Os hoffech siarad gydag aelod o’r Fforwm Preswylwyr, gellir trefnu hyn a byddant yn gallu rhoi gwybod i chi am holl fanteision bod yn aelod.



