Bro Myrddin Housing Association

Cartref|Amdanom Ni |Ardal Contractwr |Ardal Preswyliwr |Cysylltu � Ni |Cais am Dai |Cymerwch Ran |Swyddi

Cymorth - Chwilio


Awgrymiadau Cyflym ac Enghreifftiau ar gyfer Chwilio’r Wefan

Mae’n hawdd chwilio am gynnwys ar ein gwefan. Teipiwch ychydig o eiriau neu ymadroddion rydych yn chwilio amdanynt yn y blwch chwilio sy’n ymddangos yng nghornel dde uchaf pob tudalen. Unwaith eich bod wedi teipio’r gair neu’r ymadrodd, cliciwch chwilio.

Dewis Termau i’w Chwilio

Mae nodi’r termau chwilio iawn yn allweddol i ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei heisiau arnoch. Mae ein cyfleuster chwilio yn edrych am dudalennau a dogfennau sy’n cynnwys cymaint â phosibl o’r geiriau a’r ymadroddion rydych wedi chwilio amdanynt. Mae’r canlyniadau a ddychwelir wedi’u rhestru fel bod y tudalennau a’r dogfennau sydd fwyaf perthnasol i’ch ymholiad yn cael eu cyflwyno gyntaf. Peidiwch â phoeni am golli tudalen neu ddogfen oherwydd nad yw’n cynnwys un o’r geiriau yn eich chwiliad – bydd ein cyfleuster chwilio yn dychwelyd canlyniadau perthnasol hyd yn oed os nad ydynt yn cynnwys yr holl dermau yn eich ymholiad.

Nodau sydd wedi’u Heithrio

Yn anffodus, bu’n rhaid i ni eithrio rhai nodau rhag cael eu defnyddio yng nghyfleuster chwilio’r wefan oherwydd y gallent olygu bod ein gwefan yn agored i ymosodiadau diogelwch. Nid ydym yn rhestru’r nodau eithriedig oherwydd y gallai hynny helpu’r rheiny sy’n ymosod ar ein gwefan. Os byddwch yn defnyddio un o’r nodau eithriedig yn eich chwiliad, bydd yn cael ei ddileu a bydd y chwiliad yn cael ei gyflawni gan ddefnyddio gweddill y llinyn chwilio a roddwyd, e.e. os yw # yn nod eithriedig, yna bydd 'rhif#1' yn cael ei newid i 'rhif1', ac yna rhoddir y canlyniadau chwilio ar gyfer y llinyn 'rhif1'. Nid ydym yn disgwyl y bydd hyn yn effeithio ar lawer o bobl sy’n defnyddio’r wefan hon, fodd bynnag, os byddwch yn cael trafferth wrth ddod o hyd i gynnwys oherwydd nodau eithriedig, yna cysylltwch â ni.

Chwilio Uwch - Cystrawen

Mae gan ein technoleg chwilio gystrawen ymholiad syml sy’n eich galluogi i wella’r canlyniadau a ddychwelir heb fod yn rhaid i chi gofio ymholiadau cymhleth. Mae’r tabl isod yn dangos enghreifftiau o’r gwahanol dechnegau y gallwch eu defnyddio i wella eich canlyniadau chwilio.

Gweithredydd Gweithred Enghraifft

"term1 a therm2"

Yn nodi y dylai’r geiriau fod ar bwys ei gilydd Mae’r term chwilio hwn yn dychwelyd yr holl dudalennau / dogfennau lle mae’r geiriau 'ansawdd' a 'tai' ar bwys ei gilydd, "ansawdd tai"
+term Yn gofyn am derm Mae’r term chwilio hwn yn nodi bod yn rhaid i 'landlord' gael ei gynnwys yn y canlyniadau a ddychwelir."Preswyl +landlord"
-term Yn eithrio dogfennau sy’n cynnwys term Mae’r term chwilio hwn yn dychwelyd yr holl dudalennau / dogfennau sy’n cynnwys yr ymadrodd "ansawdd tai" ond NAD ydynt yn cynnwys y gair aros, "ansawdd tai"
teitl:term Yn nodi bod yn rhaid dod o hyd i’r term yn nheitl y dudalen / dogfen Mae’r term chwilio hwn yn dychwelyd yr holl dudalennau / dogfennau sy’n cynnwys y term 'gwastraff' yn nheitl y dudalen / dogfen, teitl:gwastraff
term 1 | term2 Yn chwilio canlyniadau term1 gyda therm2, gan restru’r canlyniadau yn ôl eu perthnasedd i derm1 a therm2 Mae’r term chwilio hwn yn chwilio canlyniadau chwiliad am 'gwastraff' gyda’r term 'Loughborough'. Yna, mae’r canlyniadau yn cael eu rhestru yn ôl eu perthnasedd i 'gwastraff' a 'Loughborough', gwastraff | loughborough
term1 || term2 Yn chwilio canlyniadau term1 gyda therm2, gan restru’r canlyniadau yn ôl eu perthnasedd i derm2 yn unig Mae’r term chwilio hwn yn chwilio canlyniadau chwiliad am 'gwastraff' gyda’r term 'Loughborough'. Yna, mae’r canlyniadau yn cael eu rhestru yn ôl eu perthnasedd i 'Loughborough' yn unig, gwastraff || loughborough

Beth sy’n cael ei gynnwys yn y Canlyniadau?

Mae’r chwiliad yn cynnwys tudalennau / dogfennau o blith y canlynol:

Nid yw’r chwiliad yn cynnwys tudalennau / dogfennau o blith y canlynol: