Croeso i Gymdeithas Tai Bro Myrddin

Croeso i Gymdeithas Tai Bro Myrddin

Cymdeithas Tai elusennol ddielw yw Bro Myrddin, sy’n cael ei harwain gan Fwrdd o hyd at 10 o aelodau bwrdd, ac mae’n darparu tai ar draws Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Rydyn ni’n adeiladu, yn gwella ac yn cynnal tua 1040 o gartrefi ac yn darparu amrywiaeth o wasanaethau tai i’n preswylwyr a rhanddeiliaid eraill.

Mae ein preswylwyr yn cynnwys pobl sengl a theuluoedd, pobl ifanc a hŷn ac mae ein cartrefi’n amrywio o fflatiau a thai unigol i gynlluniau tai gwarchodol a hostelau i bobl sydd ag anghenion gofal.

Mae Cymdeithas Tai Bro Myrddin yn hyrwyddo cydraddoldeb cyfle a thegwch yn ei rôl fel landlord mawr, darparwr gwasanaethau a chyflogwr.