Beth yw trais domestig?

Trais domestig yw unrhyw fath o gam-drin corfforol, rhywiol, emosiynol rhwng pobl mewn perthynas agos. Ni fyddwn yn goddef cam-drin domestig gan ein preswylwyr yn erbyn eu partneriaid neu bobl eraill sy’n byw gyda nhw.

Byddwn ni’n gweithio gyda’r Heddlu ac asiantaethau eraill i ddefnyddio rhwymedïau cyfreithiol cyfredol yn erbyn unrhyw denantiaid sy’n defnyddio trais domestig.

 

Ein Hymrwymiad

Byddwn ni’n cydweithio’n agos â’r Heddlu ac asiantaethau eraill i sicrhau gweithredu effeithiol traws-ddeiliadaeth wrth ymdrin ag unrhyw rai sy’n cyflawni camdriniaeth ddomestig nad ydyn nhw’n denantiaid y Gymdeithas. Byddwn ni’n cydweithio’n agos â’r Fforwm Cam-drin Domestig priodol i sicrhau cymorth tai traws-ddeiliadaeth i ddioddefwyr camdriniaeth ddomestig.