A YDYCH CHI’N CAEL TRAFFERTH GYDA DYLEDION/BILIAU YNNI?
Rydym wedi ein hariannu gan Ymddiriedolaeth Ynni EDF i ddarparu cyngor ariannol diduedd, am ddim, gyda’r nod i gadw chi’n rhydd o ddyledion.
Gallwn gynnig cyngor i chi, os oes gennych ddyledion gydag unrhyw gwmni ynni.
Os ydych yn gwsmer cyfredol gyda EDF, efallai y byddwch yn gymwys i apelio am grant i’ch helpu gyda’r canlynol
- Ôl-ddyledion Trydan
- Ôl-ddyledion Nwy
- Ffioedd Gorchymyn Rhyddhad Dyledion
- Ffioedd Methdaliad
- Nwyddau Gwyn (Peiriant Golchi, Rhewgelloedd, Oergelloedd a Ffyrnau)
Os nad ydych yn gwsmer EDF, efallai gallwn wneud cais ar eich rhan, gydag elusennau eraill sydd ar gael.
Os hoffech gymorth neu fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm yn uniongyrchol ar 01843 229696
Gwybodaeth Ddefnyddiol
Os rydych yn cael trafferth gyda’ch Dyledion Trydan, medrwch ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol ar ein gwefan cyhoeddus. https://www.citizensadvice.org.uk