Ceir nifer o glybiau tanwydd eisoes yn yr ardaloedd canlynol:
- Talacharn
- Llandybie
- Ystradowen
- Brynaman
- Capel Hendre
- Capel Hendre
- Drefach Felindre
- Llanymddyfri Betws
- Pencader
- Llanybydder / Llanllwni
Drwy sefydlu neu ymuno â chlwb tanwydd yn eich cymuned, gallwch brynu cyflenwad sylweddol, sy’n cynnig cyfle i chi wneud arbedion ar eich bil.
Sut mae’r clwb tanwydd yn gweithio?
- Bydd angen i chi gael unigolyn lleol sy’n fodlon bod yn gydlynydd tanwydd (os nad oes cydlynydd clwb tanwydd yn eich ardal chi yn barod)
- Archebwch olew yn rheolaidd a chael y fargen orau gydag amrywiaeth o gyflenwyr gwahanol
- Cyfrifoldeb pob unigolyn sy’n archebu yw talu’r cyflenwr am eu holew.
- Os ydych chi wedi’ch clymu i gwmni olew yn barod, neu’n methu fforddio prynu olew, mae benthyciadau llog isel ar gael gan yr undeb credyd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Gwasanaethau Tai, Tŷ Elwyn, Llanelli, SA15 3AP
Ffôn: 01554 899290