Mae Louise, ein Swyddog Cynhwysiant Ariannol yn medru cynnig cyngor cyfrinachol am ddim i’n preswylwyr ar holl faterion ariannol, taliadau rhent a budd-daliadau lles. Mae gan Louise gyfoeth o wybodaeth gyda helpu pobl gyda gyllidebu, lleihau eu treuliau a darganfod y buddion lles cywir i helpu sicrhau’r incwm mwyaf posibl.
Os rydych yn breswyliwr Bro Myrddin ac eisiau cyngor neu gymorth â’ch cyllidebau, cysylltwch â ni ar 01267 232714 neu e-bostiwch [email protected] i wneud apwyntiad gyda Louise.
Dewch ynghyd i’n cymhorthfa galw heibio bob Dydd Mawrth rhwng 9yb a 12:30yp i allu siarad â Louise yn hyderus am unrhyw faterion anhawster ariannol.
(Nodwch fod ein swyddfa ar gau ar hyn o bryd oherwydd canllawiau a gyflwynwyd gan y llywodraeth mewn ymateb i COVID-19 ond mae Louise ar gael i siarad dros y ffôn).
A ydych yn cael anawsterau ariannol o ganlyniad uniongyrchol i COVID-19?
Os ydych wedi cael eich Ffyrlo gan eich cyflogwr, gall Louise wirio a oes gennych hawl i ychwanegiad incwm oherwydd y gostyngiad mewn cyflogau, defnyddio Credyd Cynhwysol i gwblhau cyfrifiad hawl a gwneud cais i ohirio’ch taliadau Treth Gyngor tan fis Mehefin 2020. Mae’r uchod yn opsiynau gall helpu i leihau’r pwysau ariannol arnoch chi a’ch teulu dros yr adeg anodd yma.
Ydych chi’n HUNANGYFLOGEDIG a methu gweithio oherwydd y coronafirws? Mae’n gyfnod anodd iawn i chi. Ydych chi’n deall Cynllun Cymorth Hunnangyflogedig y Llywodraeth? Gall Louise esbonio’r manylion a’ch cynghori am eich opsiynau budd-dal os na allwch fforddio aros tan fis Mehefin 2020 i dderbyn cymorth ariannol. Mae gan bobl hunangyflogedig hawl hefyd i wneud cais i ohirio eu taliadau Treth Gyngor. Gall Louise helpu i wneud y cais ar eich rhan.
Os mae eich cyllid wedi’i effeithio o ganlyniad uniongyrchol i COVID-19 yna cysylltwch â ni heddiw ar 01267 232 714 i wneud apwyntiad i chi drafod yn fanylach gyda Louise.
Hyd yma mae Louise wedi darparu cefnogaeth a chyngor ariannol i 152 o breswylwyr lle mae eu cyllid wedi cael ei effeithio o ganlyniad uniongyrchol COVID-19.
Rydyn ni’n gwybod bod y rhain yn amseroedd ansicr a bod llawer o bethau wedi newid. Mae yna lawer o wybodaeth a chefnogaeth ar gael i’ch helpu chi, ond gall fod yn anodd gwybod ble i ddod o hyd iddo. Rydym wedi creu ‘COVID 19 – Canllaw defnyddiol i fudd-daliadau ac arian’ i’ch helpu chi a i’ch cyfeirio at yr amrywiaeth o gefnogaeth sydd ar gael. Gellir gweld copi o’r canllaw hwn yma.