O’r 1af o Ionawr 2015, mae rheidrwydd ar Gymdeithas Tai Bro Myrddin a landlordiaid eraill yng Nghymru, ddarparu gwybodaeth am breswylwyr sydd yn byw yn eu tai.
Fel eich landlord, mae gennym 21 diwrnod i hysbysu Dŵr Cymru am unrhyw newidiadau i’ch tenantiaeth.
Mae’n ofynnol i ni rannu:
- cyfeiriad eich tŷ
- dyddiad cychwyn eich tenantiaeth
- eich teitl, enw llawn a dyddiad geni.
Defnyddir y wybodaeth yma, i leihau dyled o fewn y diwydiant dŵr yng Nghymru.
Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i Gymdeithas Tai Bro Myrddin, ynghyd â landlordiaid eraill yng Nghymru i rannu’r wybodaeth yma gyda Dŵr Cymru. Fodd bynnag, nid ydy hyn yn effeithio ar eich hawliau o dan y Ddeddf Diogelu Data 1998 a pharhawn i drin eich gwybodaeth yn deg ac yn gyfreithlon.
Am fwy o wybodaeth ar y mater yma, cysylltwch â’ch Tîm Gwasanaeth Cwsmer ar 01267 232714
neu e-bostiwch [email protected] os gwelwch yn dda.