Rydyn ni’n credu bod cynnig cyfle i breswylwyr gymryd rhan a herio’r ffordd rydyn ni’n darparu gwasanaethau yn hollbwysig i lwyddiant y Gymdeithas yn y dyfodol.
Rydyn ni yn Bro Myrddin yn angerddol o blaid cynnwys y preswylwyr yn ein gwaith er mwyn i ni gyda’n gilydd ddarparu gwasanaethau rhagorol. Mae’r Gymdeithas wedi llunio Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr sy’n dangos yr ymrwymiad fydd yn cael ei wneud dros y blynyddoedd nesaf i sicrhau bod cyfraniad preswylwyr yn flaenoriaeth yng ngwaith y Gymdeithas.
Dyma’r prif gyfleoedd syddar gael ar hyn o bryd;
Y Fforwm Preswylwyr
Mae’r fforwm yn cyfarfod yn rheolaidd ac mae’n gyfle i wybod beth sy’n digwydd yn y Gymdeithas.
Bydd y cyfarfodydd yn edrych ar bolisiau newydd, newidiadau pwysig a cheir cyfle gwirioneddol i fynegi barn. Caiff cyfarfodydd eu cynnal yn y brif swyddfa a chaiff trafnidiaeth a lluniaeth eu darparu.
Panel Craffu
Grwp o breswylwyr yn cyfarfod bob mis i graffu gwasanaethau a darparu argymhellion i wella gwasanaethau.
Monitorau Ystadau
Gall preswylwyr chwarae rôl bwysig wrth fonitro gwaith cynnal a chadw tiroedd a darparu adborth rheolaidd am y safonau ar ystadau.
Siopa dirgel
Pob blwyddyn, rydym yn cynnwys tim o breswylwyr i roi adborth ar ba mor dda yr ydym yn darparu gwasanaethau rheng flaen dros y ffôn ac yn y swyddfa.
Adolygiad Blynyddol
Pob blwyddyn, rydym yn adolygu’r ffordd rydym yn cynnwys preswylwyr a’r effaith y mae wedi’i chael. Mae’r adolygad yn edrych ar yr hyn yr ydym wedi’gyflawni a’r hyn sy’n bwysig yn y flwyddyn blaenorol.
.
Darparwn hyfforddiant lle bo angen a chefnogaeth lawn gan staff i helpu preswylwyr gymryd rhan. Darperir costau teithio a lluniaeth resymol.
………………………………………………………………………………………………………………………………
Cysylltwch â ni
Os hoffech gwybod fwy, siaradwch gyda eich Swyddog Tai neu ffoniwch y Tim Gwasanaethau Cwsmer ar 01267 232714 neu ebostiwch [email protected].
Gallwn drefnu i chi siarad ag aelod o’r Fforwm Breswylwyr i sgwrsio am fuddion dod yn aelod.