Mae Bro Myrddin yn rhannu Cofrestr Tai Gyffredin gyda landlordiaid cymdeithasol eraill sy’n gweithredu yn Sir Gaerfyrddin.
Noder ein bod wedi newid y ffordd yr ydym yn dyrannu ein cartrefi.
Rydym wedi cyflwyno System Gosod yn Seiliedig ar Ddewis mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig eraill.
Trwy’r gwasanaeth Canfod Cartref newydd, byddwch yn gallu:
- Gweld pa gartrefi sydd ar gael
- Penderfynwch a ydych am gael eich ystyried ar gyfer cartref gwag
- Rhoi cynnig am eich cartref newydd ar-lein
- Gweld pa fand blaenoriaeth oedd gan yr ymgeisydd llwyddiannus
Bydd gosodiadau yn dal i fynd i’r person ar y gofrestr yn y band blaenoriaeth uchaf a’r amser aros hwyaf (mae cysylltiadau lleol neu gymunedol yn rhoi blaenoriaeth ychwanegol).
Am wybodaeth bellach ac i ymweld â’r wefan, cliciwch y ddolen ganlynol: https://www.canfodcartref.org.uk/
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu os oes angen cyngor tai ar frys arnoch, cysylltwch â 01554 899389 neu ewch i www.sirgar.llyw.cymru