Sut mae Cydgyfnewid yn gweithio

Pan fyddwch chi’n dod o hyd i eiddo mae gennych chi ddiddordeb ynddo, bydd angen i chi drefnu ei weld. Os ydych chi am fynd ymlaen ar ôl gweld cartrefi eich gilydd, y cam nesaf yw cwblhau ffurflen cydgyfnewid ar gyfer eich cartref.

www.homeswapper.co.uk

 

Pwy sy’n cael ymgeisio am Gydgyfnewid?

Caiff yr holl denantiaid Cyngor a Chymdeithas Tai sydd â thenantiaethau diogel a’r mwyafrif o denantiaid Cymdeithas Tai sydd â thenantiaeth sicr wneud cais i gyfnewid eu llety. Yn anffodus ni chaniateir cydgyfnewid gyda thenantiaid mewn llety rhent ar brydles neu breifat. Rhaid i’r holl denantiaid ymgeisio am, a sicrhau caniatâd oddi wrth eu landlord cyn mynd ymlaen i gyfnewid.

Pam fod angen i mi ofyn caniatâd cyn cyfnewid fy llety?

Yn gyntaf, chi sy’n gyfrifol yn gyfreithiol am eich eiddo ac am dalu’r rhent yn brydlon. Mae’n ofynnol i chi gadw at y Cytundeb Tenantiaeth a rhaid i chi beidio â chyfnewid nag Aseinio eich Tenantiaeth heb gydsyniad y Cyngor neu’r Gymdeithas Tai. Bydd y Cyngor/Cymdeithas Tai’n dwyn achos cyfreithiol yn eich erbyn chi os byddwch chi’n cyfnewid eich llety heb ganiatâd.

Yn ail, cyn cydsynio i gyfnewid rhaid i’r Cyngor neu’r Gymdeithas Tai sicrhau bod y tenantiaid wedi diwallu rhai amodau:

  • Rhaid i bob tenant fod â chyfrif rhent clir
  • Dylai pob tenant fod yn symud i eiddo o’r maint cywir i’w hanghenion cartrefu

A fydd ceisio am Gydgyfnewid yn effeithio ar fy nghais am drosglwyddiad?

Na fydd, ni fydd ymgeisio i gyfnewid yn effeithio ar eich cais am drosglwyddiad. Fodd bynnag mae’n ei wneud yn fwy tebygol y cewch chi symud.

Beth os nad oes gennyf i unrhyw flaenoriaeth o ran trosglwyddo? A gaf i wneud cais am Gydgyfnewid o hyd?

Cewch. Mantais cydgyfnewid yw nad yw’r symud yn seiliedig ar angen cartrefu, felly mae cyfle gan bob tenant i gyfnewid

Gwybodaeth Ddefnyddiol Arall

  • Dylai tenantiaid y Cyngor fod yn ymwybodol os ydych chi’n dymuno cyfnewid cartref gyda thenant mewn Cymdeithas Tai, byddwch yn ildio eich hawliau tenantiaeth ddiogel.
  • Cyn cytuno i gyfnewid, dylech ddarllen cytundeb tenantiaeth y tenant arall yn ofalus, oherwydd byddwch chi’n ymgymryd â’u tenantiaeth nhw a gallai fod hawliau a chyfrifoldebau gwahanol. Os nad ydych chi’n siŵr am amodau eich tenantiaeth newydd holwch eich swyddog tai neu ceisiwch gyngor cyfreithiol.
  • Mae’n hanfodol nad ydych chi’n symud hyd nes y bydd y Cyngor/Cymdeithas Tai wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig. Bydd rhaid i denantiaid sy’n symud heb ganiatâd symud yn ôl.
  • Fe’ch cynghorir i ymweld â’r cartref rydych chi’n meddwl symud iddo o leiaf unwaith, yn enwedig i weld cyflwr yr eiddo a’i osodiadau. Cofiwch pan fyddwch chi’n cyfnewid, rydych chi’n derbyn yr eiddo fel y mae. Dim ond atgyweiriadau sy’n ofynnol i’r landlord eu gwneud fydd Bro Myrddin yn eu gwneud.
  • Ar ôl derbyn cymeradwyaeth ar gyfer y cydgyfnewid, bydd rhaid i’r ddau barti gytuno’n ysgrifenedig eu bod yn derbyn yr eiddo fel y’i gwelwyd ar ddyddiad tenantiaeth fydd yn cael ei osod.

I dderbyn gwybodaeth bellach, edrych ar eiddo a chofrestru, ewch i’r wefan www.homeswapper.co.uk