“Bydd pobl yn ei chael yn hawdd cwyno a rhoi pethau’n iawn pan na fydd y gwasanaeth maen nhw’n ei dderbyn yn ddigon da.”
- Rydym ni’n ymrwymo i ymdrin yn effeithiol ag unrhyw bryderon neu gwynion a allai fod gennych chi am ein gwasanaeth ni
- Rydym ni’n ceisio egluro unrhyw faterion nad ydych chi’n siŵr amdanyn nhw, ac os yw’n bosibl, byddwn ni’n cywiro unrhyw gamgymeriadau rydym ni wedi’u gwneud
- Byddwn yn darparu unrhyw wasanaeth y mae gennych chi hawl iddo, nad ydym ni wedi llwyddo i’w gyflwyno
- Rydym ni hefyd yn ymdrechu i ddysgu o’n camgymeriadau a defnyddio’r wybodaeth a gawn ni i wella ein gwasanaethau.
- Os ydym ni wedi gwneud rhywbeth yn anghywir, byddwn ni’n ymddiheuro a lle bo’n bosibl byddwn ni’n cywiro pethau.
Ydych chi wedi gofyn i ni?
Os ydych chi’n cysylltu ni am wasanaeth am y tro cyntaf (e.e. ein hysbysu am olau stryd diffygiol, gofyn am apwyntiad ac ati) yna nid yw’r polisi hwn yn gymwys.
Dylech chi roi cyfle i ni ymateb i’ch cais yn gyntaf.
Os ydych chi’n gwneud cais am wasanaeth ac yn anhapus gyda’n hymateb ni, byddwch chi’n gallu mynegi eich pryder yn y ffordd rydym ni’n disgrifio isod.
Datrysiad anffurfiol
Os yw’n bosibl, rydym ni’n credu ei fod yn well ymdrin â phethau ar unwaith yn hytrach na cheisio datrys y mater yn ddiweddarach.
Ceisiwch ei godi gyda’r person rydych chi’n delio ag a byddant yn ceisio ei ddatrys i chi yn y lle a’r fan. Os nad yw’r aelod o staff yn gallu helpu, bydd yn egluro pam ac yna gallwch chi ofyn am ymchwiliad ffurfiol.
Ymdrin â’ch pryder neu gŵyn
- Cydnabod eich pryder / cwyn yn ffurfiol o fewn 5 diwrnod gwaith ac yn rhoi gwybod i chi sut rydym ni’n bwriadu ymdrin ag e.
- Gofyn i chi ein hysbysu am unrhyw ofynion penodol gennych chi – er enghraifft oes gennych chi anabledd.
- Ymdrin â’ch pryder mewn modd agored a gonest.
- Sicrhau na fydd eich cyswllt â ni yn y dyfodol yn dioddef am eich bod chi wedi mynegi pryder neu gyflwyno cwyn.
Fel arfer, byddwn ni ond yn gallu edrych ar eich pryder / cwyn os byddwch chi’n ein hysbysu ni amdano o fewn 6 mis. Y rheswm am hyn yw ei fod yn well ymchwilio i’ch pryderon tra bo’r mater yn dal i fod yn ffres ym meddwl pawb.
Mewn achosion eithriadol efallai y byddwn ni’n gallu edrych ar bryderon sy’n cael eu dwyn i’n sylw yn ddiweddarach na hyn. Fodd bynnag bydd rhaid i chi roi rhesymau cryf i ni pam nad ydych chi wedi gallu dod â hyn i’n sylw ynghynt a bydd angen i ni gael digon o wybodaeth am y mater i ganiatáu i ni ei ystyried yn iawn.
Beth bynnag yw’r amgylchiadau, ni fyddwn ni’n ystyried unrhyw bryderon am faterion a ddigwyddodd dros dair blynedd yn ôl. Os ydych chi’n mynegi pryder ar ran rhywun arall, bydd angen i ni gael eu cytundeb nhw i chi weithredu ar eu rhan.
Beth os oes mwy nag un corff yn rhan o’r achos?
Os yw eich cwyn yn cynnwys mwy nag un corff (e.e. y Gymdeithas Tai a’r Cyngor am niwsans sŵn) fel arfer byddwn ni’n cydweithio gyda nhw i benderfynu pwy ddylai arwain wrth ymdrin â’ch pryderon. Yna fe gewch chi enw’r unigolyn sy’n gyfrifol am gyfathrebu gyda chi wrth i ni ystyried eich cwyn.
Os yw eich cwyn yn ymwneud â chorff sy’n gweithio ar ein rhan ni (e.e. contractwyr atgyweirio, Rheolwr Cynllun) mae’n bosibl y byddwch am godi’r mater yn anffurfiol gyda nhw yn gyntaf. Fodd bynnag os ydych chi am fynegi eich pryder neu gŵyn yn ffurfiol, byddwn ni’n edrych ar hyn ein hunain ac yn ymateb i chi.