Mae ein holl gontractwyr yn ymgymryd mewn proses gymeradwyo drwyadl, cyn dechrau unrhyw waith yng nghartrefi ein preswylwyr.

Darparir gopi o ‘God Ymddygiad Contractwr’ y Gymdeithas i’n holl gontractwyr a disgwylir iddynt gadw at ei gynnwys.

Mae’n ofynnol i gontractwyr rannu’r ‘Cod Ymddygiad Contractwr’ gydag unrhyw is-gontractwyr ac iddynt hwythau hefyd gadw at ei ofynion.

Mae’r Cod Ymddygiad Contractwr yn sicrhau y byddant yn gweithredu mewn modd priodol.Gwelir isod restr o ofynion allweddol:-

Gwaith Trwsio

  • Cael ei gwblhau o fewn yr amser a gytunwyd.
  • Apwyntiad addas wedi’i drefnu, pan mae angen i chi fod yn yr eiddo.
  • Atgyweiriadau wedi’u cwblhau i’r safon uchaf.
  • Ymgymryd â’r gwaith gyda chwrteisi ac ystyriaeth.
  • Os ydy’r contractwr yn cael ei alw allan i’ch eiddo, ac nad ydych adref, disgwylir i’r contractwr adael cerdyn galw i aildrefnu’r apwyntiad.

Iechyd a Diogelwch

Rhaid i holl gontractwyr:

  • Leihau’r risg i chi, y cyhoedd a’u gweithwyr.
  • Ddarparu cerdyn adnabod pan cyrhaeddant.
  • Esbonio’n llawn natur y gwaith sy’n cael ei gwblhau, gan roi cyfle i chi sôn am beryglon nad ydynt yn amlwg, cyn iddynt ddechrau gweithio.
  • Gadw’r holl ddeunyddiau ac offer ar y safle yn ddiogel.
  • Gadw eich cartref yn lân a thaclus, gan gael gwared ag unrhyw ddeunyddiau gwastraff.
  • Sicrhau bod lefelau sŵn, i chi a’r cartrefi cyfagos, wedi’u lleihau yn ystod y gwaith.
  • Sicrhau bod y cartref yn cael ei adael mewn cyflwr hwylus a diogel.

Oriau Gwaith

  • Ar wahân i argyfwng allan o oriau gwaith, dylai unrhyw waith cael ei wneud yn ystod oriau gwaith arferol (fel arfer 8:30yb – 5:00yp).
  • Rhaid i’r contractwr rhoi rhybudd priodol os ydy’n debygol i’r gwaith cael ei gwblhau tu allan i’r oriau gwaith arferol. Cyn i unrhyw waith ddechrau, gofynnir am gymeradwyaeth wrth Fro Myrddin.

Bod yn bresennol

  • Rhaid i gontractwyr sicrhau eich bod chi neu gynrychiolydd yn bresennol yn eich cartref, ar bob adeg mae gwaith yn cael ei gwblhau.
  • Ni ddylai contractwr wneud gwaith yn eich cartref, ar unrhyw adeg, lle dim ond unigolyn o dan 16 oed sydd yn bresennol. Os cyflwynir ef â’r sefyllfa yma, rhaid i’r contractwr hysbysu’r Gymdeithas a gadael yr eiddo nes bod oedolyn addas ar gael. Gall hyn olygu na fydd y gwaith yn cael ei gwblhau ar amser. Os felly, fe fydd angen trefnu dyddiad arall am ymweliad pellach.
  • Lle’n bosib, dylid osgoi unrhyw drefniadau eraill ar gyfer mynediad.

Rhybudd

  • Lle’n briodol, rhaid i’r contractwr rhoi rhybudd rhesymol i chi, i ddatgysylltu gwasanaeth, neu darfu ar y defnydd neu fynediad at amwynderau hanfodol, fel nwy, trydan, dŵr neu gyswllt ffôn.
  • Lle mae’r amhariad yn debygol o fod fwy na 3 awr, rhaid i’r contractwr roi o leiaf 24 awr o rybudd.
  • Lle mae’n debygol i’r gwaith amharu ar fwy nag un preswyliwr neu aelwyd, rhaid i’r contractwr rhoi digonedd o rybudd i’r rhai a all gael eu heffeithio.