Sut mae eich rhent yn cael ei ddefnyddio?

Eich rhent chi yw ein prif ffynhonnell incwm ac mae’n cael ei ddefnyddio i wneud yn siŵr eich bod yn derbyn y gwasanaethau gorau bosib.

Ar gyfer beth mae eich rhent yn cael ei ddefnyddio?

Eich rhent yw ein prif ffynhonnell incwm ac fe’i defnyddir i sicrhau eich bod yn derbyn y gwasanaethau gorau posibl i ddarparu, cynnal a rheoli eich cartref.

Rheoli eich cyfrif rhent ar-lein

Mae rheoli eich cyfrif rhent ar-lein yn hawdd iawn. Cofrestrwch, neu os oes gennych chi enw defnyddiwr a chyfrinair yn barod, mewngofnodwch i’ch ardal ‘Fy Nghyfrif’ ar ein gwefan. Unwaith y byddwch chi wedi mewngofnodi byddwch chi’n gallu mynd at eich cyfrif rhent a chael datganiad rhent byw.

Cofiwch, fel y nodir yn eich cytundeb tenantiaeth ‘Mae taliadau rhent gros wythnosol yn ddyledus o flaen llaw bob wythnos ar ddydd Llun’.

Cael cyfrif banc sy’n addas i chi

O ganlyniad i newidiadau yn eich budd-daliadau, bydd angen cyfrif banc arnoch chi, os nad oes gennych chi un yn barod.

Mae dewis y cyfrif banc iawn yn hanfodol wrth reoli eich arian.

I gael cyngor am ddewis y cyfrif banc iawn, cliciwch yma.

Ddim yn siŵr pa fudd-daliadau mae gennych chi hawl iddyn nhw?

Defnyddiwch y cyfrifwr budd-daliadau sydd am ddim ac sy’n hawdd ei ddefnyddio i weld oes gennych chi hawl i unrhyw gymorth ariannol ychwanegol drwy fudd-daliadau lles. www.turn2us.org.uk

Os oes gennych chi gwestiwn o hyd am eich rhent sydd heb ei ateb cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01267 232 714 neu ebostiwch