Pam dylech chi dalu

Nid ydy talu eich rhent yn fater o ddewis, ac mae’n bwysig eich bod yn talu ar amser.

Rydych chi’n gyfrifol am sicrhau bod eich rhent yn cael ei dalu bob mis.

Hefyd, mae yna bosibilrwydd eich bod yn gorfod talu am wasanaethau ychwanegol e.e. cynnal a chadw tir,
glanhau grisiau cymunedol neu oleuadau. Caiff hyn ei esbonio yn eich cytundeb tenantiaeth.

Defnyddiwn yr arian a gasglwn i ddarparu gwasanaethau fel atgyweiriadau a gwelliannau i’ch cartref.

Os nid ydych yn talu eich rhent, mae gennym ni lai o gyllideb i ddarparu’r gwasanaethau uchod.

 

Rheoli eich rhent

Ein nod yw codi tâl rhent mae pobl ar incwm isel yn medru fforddio, ond hefyd yn darparu digon o ariani
i gynnal ein safonau uchel o wasanaethau ac eiddo.

I’n galluogi i reoli ein rhent yn effeithiol, fe wnawn;

  • Adolygu eich rhent a thaliadau gwasanaeth yn flynyddol
  • Rhoi 28 diwrnod o rybudd, o unrhyw gynnydd i’ch rhent neu daliadau gwasanaeth
  • Cynnig amryw o ffyrdd i dalu