Yn ôl ym mis Ionawr 2022 hysbyswyd holl landlordiaid Cymru y bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn cael ei chyflwyno ar 1 Rhagfyr 2022, a bydd yn newid y ffordd mae holl landlordiaid Cymru (Landlordiaid Tai Cymdeithasol a Landlordiaid Preifat) yn rhentu eu heiddo.
Y Ddeddf Rhentu Cartrefi yw’r newid mwyaf o ran cyfraith tai ers degawdau ac rydyn ni wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf yn paratoi Bro Myrddin am y newid hwn.
Pa newidiadau fydd preswylwyr Bro Myrddin yn eu gweld?
- Caiff Contract Meddiannaeth ei anfon atoch (bydd hwn yn cymryd lle eich cytundeb tenantiaeth presennol).
- Cewch eich galw a chyfeirir atoch fel ‘deiliad contract’.
Mae’r gyfraith newydd yn symleiddio cytundebau ac yn cynnig gwell diogelwch a sicrwydd i denantiaid a landlordiaid.
Dan y Ddeddf, rhaid i Bro Myrddin barhau i gynnal gwasanaethu hanfodol yn eich eiddo, fel gwasanaethu nwy a’n gwiriadau diogelwch trydan i sicrhau bod eich cartref yn ddiogel.
Anfon eich contract newydd:
Yma yn Bro Myrddin rydyn ni am barhau i leihau ein ôl troed carbon ac felly rydyn ni’n awyddus i anfon yr holl gontractau’n electronig drwy ebost lle bo’n bosibl. Fodd bynnag er mwyn gwneud hyn mae angen i Bro Myrddin dderbyn eich caniatâd i dderbyn llythyrau a dogfennau eraill yn ymwneud â’r Ddeddf Rhentu Cartrefi oddi wrthym ni drwy ebost.
Mae anfon contractau drwy ebost yn golygu ein bod yn defnyddio llai o bapur a byddwch yn cael llai o lythyrau drwy eich drws.
Mae hyn yn arbed arian i Bro Myrddin, y gellir ei ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau i chi.
Os ydych yn hapus i dderbyn eich contract yn ddigidol, drwy e-bost yna e-bostiwch [email protected] gyda manylion eich cyfeiriad a’r gair YDW.
Fel arall, gallwch ein ffonio ar 01267 232 714 i roi eich caniatâd i dderbyn eich contract newydd yn electronig.
Rydym am i’r newid hwn fod mor llyfn â phosibl i bawb. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae’r gyfraith yn newid, ewch i wefan Rhentu Cartrefi Llywodraeth Cymru Mae cyfraith tai yn newid: Rhentu Cartrefi Cymru | LLYW.CYMRU.