I derfynu eich tenantiaeth, sicrhewch eich bod yn gwneud y camau canlynol, er mwyn osgoi derbyn costau annisgwyl:

Rhoi pedair wythnos o rybudd ysgrifenedig

Medrwch derfynu eich tenantiaeth wrth roi pedair wythnos o rybudd ysgrifenedig, sy’n gorffen ar Ddydd Llun. Gallwch ofyn am ffurflen terfynu eich tenantiaeth oddi wrth y Tîm Gwasanaethau Cwsmer neu lawr lwythwch y ffurflen atodedig. Rhaid i’r ffurflen yma gael ei llofnodi gennych chi, neu os ydych yn breswyliwr ar y cyd, o leiaf un (ond yn ddelfrydol dau) ohonoch. Os caiff y ffurflen ei llofnodi gan un preswyliwr, mae hyn yn dal i ddodâ’r denantiaeth ar y cyd i ben.

Caniatáu i’n staff archwilio’r eiddo

Yn ystod y cyfnod rhybudd, rhaid i chi ganiatáu mynediad i staff y Gymdeithas archwilio’r eiddo. Hysbyswn chi am waith disgwylir i chi gwblhau cyn i chi adael yr eiddo. Os na chaiff y gwaith yma ei gwblhau, fe fyddwn yn codi tâl am gwblhau’r gwaith ein hunan.

Clirio holl sbwriel a dodrefn diangen o’r eiddo

Pan ddaw eich tenantiaeth i ben, rhaid i chi glirio’r eiddo cyfan o’ch holl eitemau, yn cynnwys tu allan. Mae hyn yn cynnwys eich gorchuddion llawr, oni bai ein bod wedi cytuno yn ystod yr archwiliad uchod y gallwch eu gadael. Os wnewch adael eitemau yn yr eiddo heb ein caniatâd, codwn dâl (gweler y ffurflen terfynu eich tenantiaeth atodedig am y taliadau presennol).

Dychwelyd yr allweddi

Ar ddiwrnod olaf eich tenantiaeth, gofynnwn i chi ddychwelyd holl allweddi’r eiddo i ni erbyn 10 yb fan bellaf. Os nad ydy’r allweddi yn ein meddiant, codir rhent am bob wythnos, neu wythnos rannol,  nes iddynt gael eu dychwelyd i’r Gymdeithas. Sicrhewch eich bod yn cael derbynneb am ddychwelyd eich allweddi.

Sicrhewch fod yr eiddo wedi’i lanhau yn drwyadl a chofiwch gysylltu â’ch darparwyr nwy a thrydan er mwyn trefnu iddynt ddarllen eich mesuryddion a sicrhau bod eich cyflenwadau wedi cael eu troi i ffwrdd cyn gadael yr eiddo. Gwnewch yn siwr bod yr eiddo wedi’i adael yn ddiogel.

Tenantiaethau ar y cyd

Os rydych yn rhan o denantiaeth ar y cyd, golygir hyn eich bod chi a’ch partner yn breswylwyr  o’r eiddo ac yn gyfrifol am sicrhau bod telerau eich cytundeb tenantiaeth y cael eu bodloni (hyd yn oed os oes un ohonoch yn gadael).

Am fwy o fanylion neu am gymorth pellach, cysylltwch â’n Tîm Gwasanaethau Cwsmer ar 01267 232714 neu e-bostiwch [email protected].