Pwy ydych chi?

Rydym ni’n banel o breswylwyr sy’n cyfarfod pob mis yn swyddfa’r Gymdeithas i graffu a helpu i wella’r gwasanaethau a ddarperir gan y Gymdeithas.

Beth ydych chi’n ei wneud?

Rydyn ni’n helpu i fonitro perfformiad y Gymdeithas a’i gwasanaethau. Rydyn ni hefyd yn helpu i nodi meysydd a gwasanaethau sydd angen ymchwil pellach a herio pan na fydd safonau a gytuni yn cael eu cyflawni a chynnig argymhellion i wella gwasanaethau.

Faint o feysydd ydych chi wedi craffu arnyn nhw?

Ar hyn o bryd rydyn ni wedi craffu ar 11 maes gwasanaeth sy’n cynnwys;

  • Cyfathrebu
  • Tai gwag
  • Cwynion
  • Gwasanaethau’r Person Defnyddiol
  • Cynnal a Chadw Tiroedd
  • Rheoli ôl-ddyledion rhent

Dwyf i ddim wedi bod yn rhan o Banel Craffu o’r blaen, sut gallai ymuno?

Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol i fod yn rhan o banel craffu’r preswylwyr oherwydd caiff hyfforddiant ei ddarparu. Yn ystod eich cyfnod ar y panel byddwn yn cael gwybodaeth a phrofiad wrth weithio ochr yn ochr ag ymgynghorydd annibynnol sy’n cadeirio’r cyfarfodydd.

Does gen i ddim car. Sut fydda i’n cyrraedd y swyddfa?

Os cysylltwch â thîm y Gwasanaethau Cwsmeriaid cyn y cyfarfod, byddan nhw’n gallu trefnu cludiant i’r swyddfa ac yn ôl. Caiff costau teithio eu had-dalu.

Sut gallaf i gymryd rhan?

Cysylltwch â’r Gymdeithas ar 01267 232714 neu [email protected] i gael rhagor o wybodaeth.