Pwy sy’n Rheoleiddio Cymdeithasau Tai yng Nghymru?
Caiff Cymdeithasau Tai yng Nghymru, a elwir hefyd yn ‘Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig’ eu rheoleiddio
gan Dîm Rheoleiddio Tai Llywodraeth Cymru. Nod y rheoleiddio yw gwarchod Tenantiaid a Buddsoddiad mewn Cymdeithasau Tai yng Nghymru.
Caiff gwaith y Tîm Rheoleiddio ei oruchwylio gan y Bwrdd Rheoleiddio Cymru.
Beth yw’r Bwrdd Rheoleiddio Cymru?
Mae’r Bwrdd Rheoleiddio Cymru yn annibynnol ac yn cynnwys ffigurau tai allweddol ledled y DU.
Diben y Bwrdd yw edrych ar berfformiad rheoleiddio a gweithgarwch Llywodraeth Cymru a’r sector tai.
Mae deall a chlywed barn tenantiaid cymdeithasau tai yn bwysig i’r Bwrdd a’r Tîm Rheoleiddio fel y caiff pryderon a diddordebau tenantiaid eu hadlewyrchu yn eu gwaith. Maent eisiau dod o hyd i wybodaeth am flaenoriaethau a phryderon tenantiaid yn gyffredinol a’u barn ar feysydd blaenoriaeth bwysig megis gwerth am arian. Maent hefyd eisiau adborth gan denantiaid ledled Cymru ynglŷn â’u boddhad eang â gwasanaethau eu cymdeithas tai ac ymgysylltu â thenantiaid.
Mae’r Bwrdd Rheoleiddio eisiau creu darlun o farn gyffredinol tenantiaid dros amser ac eisiau clywed a yw rheoleiddio’n gweithio o safbwynt tenantiaid. Nid yw’r Bwrdd yn gallu delio â chwynion penodol gan denantiaid, dylid ymdrin â’r rhain trwy bolisi cwynion y landlord neu trwy’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – http://www.ombudsman-wales.org.uk/
Sut fydd llais tenantiaid yn cael eu clywed gan y Bwrdd?
I gasglu barn tenantiaid, mae’r Bwrdd a’r Tîm Rheoleiddio yn gweithio gyda TPAS Cymru a fydd yn defnyddio ystod o ffyrdd gwahanol i denantiaid gymryd rhan. Bydd y rhain yn cynnwys casglu barn tenantiaid mewn rhwydweithiau a digwyddiadau tenantiaid rhanbarthol; grwpiau ffocws a fforymau i drafod materion penodol.
Mae TPAS Cymru hefyd wedi sefydlu ‘Pwls Tenantiaid’ newydd – cymuned arolwg lle gall tenantiaid roi eu barn trwy e-bost neu’r post. Mae ‘Pwls Tenantiaid’ yn rhad ac am ddim i ymuno, ac am bob arolwg sy’n cael eu cwblhau gan aelodau, bydd eu henw’n cael eu rhoi mewn het i ennill gwobr.
I ymuno â’r ‘Pwls Tenantiaid’ dilynwch y ddolen isod http://www.tpas.cymru/ynghylch/pwls-tenantiaid neu cysylltwch â TPAS Cymru am ffurflen gais papur neu am y wybodaeth mewn iaith/fformat arall (02920 237303)
Mae’r ffordd y mae Llais y Tenantiaid yn Rheoliad yn gweithio yn cael ei fonitro trwy Grŵp Llywio ‘Gwneud Iddo Weithio’, sy’n cynnwys aelodau o’r Bwrdd, y Tîm Rheoleiddio, Grŵp Cynghori ar Reoleiddio a TPAS Cymru.
Rhagor o Wybodaeth
Ceir rhagor o wybodaeth am Reoleiddio Cymdeithasau Tai yng Nghymru trwy ddilyn y dolenni isod:
http://www.tpas.cymru/blog/the-regulatory-board-for-wales-a-tenant-overview-cym
http://gov.wales/topics/housing-and-regeneration/services-and-support/regulation/?skip=1&lang=cy